“Cymylau Bach Gwlanog uwch ben Bethesda. The Orb yn Neuadd Ogwen”
- Desh Kapur
- 10 hours ago
- 2 min read
Neuadd Ogwen, Bethesda May 9th, 2025
WORDS AND IMAGES DESH KAPUR
( Welsh Translation Dylan Wyn Evans )

“Cymylau Bach Gwlanog uwch ben Bethesda. The Orb yn Neuadd Ogwen”
Unwaith ddaru’r “Orb” glanio o’r nefoedd a’r mynyddoedd yn Nyffryn Ogwen ar 9fed o Fai, clywedir mwy na swn defaid ar y pobl lleol. Cafodd y cyneilleudfa eu ymdrin i adleisio mwy dwfn na’r chwareli, seiniau llaesol a mwy na digon o fâs i grynnu’r llechi oddi ar pob to ym Mheddesda. Troddwyd y deuawd eiconig trydanol Neuadd Ogwen i fewn i orsaf lawnsio gorfodol. Hyd nod ym 2025, nid oes parti fel parti’r Orb.
Mae’r neuadd yn ganolfan celfyddol ar gyfer y cymuned wedi ei datblygu o hen capel Bethesda. Fel arfer nosweithiau gwerin a farddoniaeth sydd yn cael eu cynnal ond ar y noson yma curodd y lle gyda golygfeydd seicadelig, goliadau flachar a torf yn gwenu o lust i lust i gyd yn rhyfeddu os ddaru nhw crwydro oddi ar cae yn Glastonbury ym 1992 ac wedi mynd ar goll ar eu ffordd adre. Cyfoethoglyd oedd y neuadd am eu presenoldeb.
Mae Alex Paterson a Michael Rendall, peilots yr Orb a’r prif drygionwyr, yn dal yn Meistri ar eu crefft. Cymysgodd y set rhwng hen a chrebwyll. Wrth gwrs gafodd “Little Fluffy Clouds” adbrisiant arbennig gan clustiau oedd yn cofio hi y tro cyntaf ac hefyd gan ddilynwyr newydd. Y wefr o sampl Rickie Lee Jones yn siarad am wybrau Arizona dros curiad perlewygus yn amlwg.
Llufodd traciau newydd yn ddi ymdrech gyda’u clasuron, engraifft o pa mor dylanwadol ac o flaen eu amser oed Yr Orb. Arloeswyr y ffurf lenyddol o’r math yma o gerddoriaeth ydy’r Orb. Wrth profi’r perfformiad ym Methesda, mi oedd fel cael cwtch cerddorol.
Cymysgedd hyfryd oedd y cyneulleudfa, ymdderwyr, tadau mewn crysau t’r band mor hen a rhai o’r mynychwyr. Pobl trendi gogledd Cymru a’r boi gyda glowstic yn cael amswer gwerth chweil. Roedd y peiriant niwl mor nerthol darru rhywun wrth y llwyfan arddoli bod nhw wedi gweld Dyw. Ella dim ond y laserau oedd hi ac nid ymyriad diwinyddol.
Ymusg y caneuon, symudwyd Paterson a Rendall fel dewyniaid yn creu sbel, mi oedd yn amlwg oedd y ddau yn cael hwyl. Doedd ‘na ddim lot o siarad ganddynt, gwell i’r cerddoriaeth llefaru yn enwedig gyda tonnau o fas gall dadseinio’ch asgwrn cefn.
Erbyn diwedd y noson, teimlodd Neuadd Ogwen yn fwy fel allbost o’r planed “Orb” na canolfan y pentref. Arnofwyd pawb allan i’r strydoedd wedi eu syfrdanu ond yn hapus, clustiau’n canu a’u meddylfryd wedi lledu. Noson lle plygoedd amser a blodeuodd pob curiad.
Os cewch y cyfle i weld The Orb yn fyw, nail mewn cae enfawr Gwyl neu mewn neuadd pentref bychan wedi ei amgylchu gan mynyddoedd – peidiwch a cholli’r cyfle. Nid dim ond gig oedd hyn. Mwy o borthol. Cofiwch eich plygiau clust, meddylfryd agored a’ch awyddau gwirioneddol.
DILYNWCH YR ORB
Comments